Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019

 

Mae’r Pwyllgor wedi codi pwyntiau adrodd amrywiol o dan Reolau Sefydlog 21.2(ix) a (vi), yr ymdrinnir â hwy yn eu tro.

O ran pwynt adrodd 2 o dan Reol Sefydlog 21.2(vi), ceir gwall teipograffyddol yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Cymru sy’n golygu y cyfeirir at yr offeryn statudol hwn gan ddefnyddio’r teitl anghywir, sef “The Invasive Alien Species (Enforcement and Permitting) (Wales) Order 2019” (ychwanegwyd y pwyslais). Y teitl cywir, wrth gwrs, yw “The Invasive Alien Species (Enforcement and Permitting) Order 2019”. Caiff hyn ei gywiro drwy slip cywiro. Caiff hyn ei wneud ar sail Cymru yn unig gan fod y Memorandwm Esboniadol yn ymdrin â Chymru yn benodol. Mae Llywodraeth y DU wedi drafftio eu Memorandwm Esboniadol hwy ar wahân.

O ran pwynt adrodd 3 sydd hefyd o dan Reol Sefydlog 21.2(vi), rydym wedi cynnal trafodaethau gyda swyddogion Defra er mwyn cael eglurhad ar y sefyllfa ynglŷn â’r croesgyfeiriad yn erthygl 32(1)(a). Yn dilyn hynny, gallwn gadarnhau y bwriedir i’r cyfeiriad fod yn gyfeiriad at erthygl 27(2). Pan gafodd y Gorchymyn ei ddrafftio, ystyriwyd ei bod yn fwy synhwyrol cyfeirio at gadw’n gaeth (“detention”) o dan erthygl 27(2) gan mai’r pŵer hwn yw’r pŵer i barhau i gadw’n gaeth am gyfnod o 5 diwrnod, sy’n wahanol i’r pŵer i ymafael (“seizure”) o dan erthygl 27(1). Yn y cyd-destun hwn, hynny yw cyd-destun costau storio organedd perthnasol, mae’n synhwyrol cyfeirio at y pŵer sy’n galluogi parhau i gadw’n gaeth pan fyddai costau cysylltiedig o’r fath yn codi.

Rydym yn nodi pwynt adrodd cyntaf y Pwyllgor ac yn ategu’r hyn y mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ei gydnabod, sef bod rhesymau da pam nad yw’r offeryn hwn wedi cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.